Select the search type
 
  • Site
  • Web
Search
 Apprenticeships
Prentisiaethau yng Nghymru

Creative Apprenticeships

Rhoi rhwydd hynt i ddoniau Cymru!

Mae sefydliadau yn ein sector wedi bod yn sôn wrthym am y sgiliau technegol a phroffesiynol sydd eu hangen arnynt. Buont hefyd yn sôn am y swyddi sy’n anodd eu llenwi er gwaethaf y nifer fawr o raddedigion â graddau creadigol sy’n ymuno â’r farchnad swyddi.

A dyna pam yr ydym wedi lansio’r Brentisiaeth Greadigol yng Nghymru, sef ffordd newydd a gwahanol o ymuno â’r sector. Mae’r Brentisiaeth Greadigol yn ffordd hollol wahanol o benodi pobl i swyddi sy’n gofyn am sgiliau arbenigol sy’n cael eu dysgu pan mae pobl wrth eu gwaith, fel technegydd mewn theatr a chynorthwyydd blaen tŷ.
Gyda hyfforddiant sy’n cael ei ariannu’n llawn a chymorth gan ddarparwyr hyfforddiant lleol, gall Prentis Creadigol wneud cyfraniad hollbwysig at eich sefydliad.

Trwy benodi gweithiwr yn y modd yma gallwch fanteisio ar y doniau hynny na allech eu cael fel arall. Mae Prentisiaeth Greadigol yn gadael i ymgeiswyr, na allant fforddio gwneud gwaith heb gyflog, gael lleoliadau er mwyn cael swyddi yn y diwydiant. Fe allech gynorthwyo rhywun i gymryd y cam cyntaf allweddol hwnnw at yrfa grefftus sy’n rhoi boddhad i’r unigolyn.

Pam ydym ni’n rhoi cychwyn ar Brentisiaeth Greadigol?

Am y tro cyntaf un bydd Prentisiaethau Creadigol yn darparu cymwysterau o safon uchel, â chyflog, yn y gwaith ar lefelau mynediad a goruchwylio (Lefel 2 a Lefel 3) ym meysydd sgiliau technegol ac arbenigol lle mae 42% o gyflogwyr y sector Creadigol a Diwylliannol yng Nghymru wedi dweud yn bendant bod anghenion sgiliau yn bodoli ar hyn o bryd ac at y dyfodol hefyd.

Cael gwybodaeth am anghenion sgiliau yng Nghymru
 

Trwy bydd y prentisiaethau’n golygu y bydd rhagor o bobl yn gallu ymuno â’r gweithlu, trwy ddarparu llwybr galwedigaethol a fydd yn
Ar ben hynny, bydd y prentisiaethau’n ehangu mynediad i’r gweithlu trwy ddarparu llwybr galwedigaethol a fydd yn denu pobl ddawnus am ei fod yn cynnig ffordd wahanol i’r llwybrau mynediad academaidd. Yn y pen draw bydd hynny’n golygu y bydd ein diwydiannau’n cyfrannu rhagor at economi Cymru a'r safon bywyd yn y wlad.

Pa brentisiaethau fydd ar gael?

Ym mis Gorffennaf 2010, fe ddechreuodd cyflogwyr ledled Cymru cyflogi Prentisiaid Creadigol yn y meysydd gwahanol yn ôl y rhanbarthau canlynol yng Nghymru:

Cymorth Technegol mewn Theatr a Gwaith Technegol mewn Theatr (Sain, Golau a Llwyfan)

  • De-ddwyrain a De-orllewin Cymru – Coleg Gorseinon
  • Gogledd-ddwyrain a Gogledd-orllewin Cymru - Coleg Menai

Cymorth Theatr – Gwisgoedd a Dillad a Gweithrediadau’r Theatr – Gwisgoedd a Dillad

  • De-ddwyrain a De-orllewin Cymru - Coleg Morgannwg

Gweithrediadau Lleoliadau Diwylliannol

  • De-ddwyrain a De-orllewin Cymru - Triangle Fusion a Choleg Bridgewater
  • Gogledd-ddwyrain a Gogledd-orllewin Cymru - Coleg Menai

Gweinyddu Celfyddydau Cymunedol a Rheoli Celfyddydau Cymunedol

  • De-ddwyrain a De-orllewin Cymru – Coleg Pen-y-bont ar Ogwr

Digwyddiadau Byw a Hyrwyddiadau

  • Gogledd-ddwyrain a Gogledd-orllewin Cymru - Coleg Menai

Bydd penodi’r prentisiaid i’r holl feysydd yn dod i ben ym mis Medi, 2010.

Cael rhagor o wybodaeth am beth yw prentisiaeth

Cafodd Prentisiaethau Creadigol eu lansio yng Nghymru trwy gyfrwng Rhaglen Arbrofol Blaenoriaeth Sector (SPFP) gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.

Dyma rai o’r manteision i’r cyflogwyr

  • Gall Prentis gynorthwyo i ddatblygu eich busnes am ei fod yn un o’ch gweithwyr ffyddlon
  • Fe brofwyd bod prentisiaid yn gwneud y busnes yn un mwy cynhyrchiol
  • Bydd cyflogi Prentis yn dangos eich bod wedi ymrwymo’n bendant i feithrin eich gweithlu
  • Mae Prentis yn gallu rhoi llais newydd a safbwynt gwreiddiol sy’n eich cynorthwyo i ddenu cynulleidfa ehangach a meithrin gwell gweithlu
  • Gall Prentis gynorthwyo i ffurfio cysylltiadau â phartneriaid rhanbarthol a'ch cymuned leol.

Dyma rai o’r manteision i’r prentisiaid

  • Fe gewch hyfforddiant wrth eich gwaith, astudio ar gyfer cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ac ennill rhagor o gyflog pan ydych yn dysgu.
  • Cewch gyfuniad o ddau beth – profiad ymarferol wrth weithio a’r cymwysterau a enillwch trwy astudio – ac felly fe gewch yr afal a’i fwyta.
  • Mae Prentisiaethau Creadigol yn cynnig ffordd arall, wahanol o ymuno â’r diwydiannau creadigol. Fe gânt eu seilio ar allu a doniau cudd yn hytrach na chymwysterau, cefndir cymdeithasol a phwy yr ydych yn ei adnabod. Eu bwriad yw chwalu cylch cythreulig y “dim profiad, felly dim swydd”.
  • Bydd rhoi cychwyn ar Brentisiaeth Greadigol yn dasg gyffrous a her ynddi.
     

Helpu doniau cudd i ddod i’r amlwg
   
     
Helpu doniau cudd i ddod i’r amlwg
   
     
 
   
     
 
Prentisiaethau yng Nghymru
 

Download

Watch

 
     




  |  Login